Profiad Bar yn y Cartref

Profiad Bar yn y Cartref

Pris arferol
£50.00
Pris sêl
£50.00
Pris arferol
Wedi gwerthu allan
Unit price
per 
Yn cynnwys TAW. Cyfrifir danfon wrth dalu.

Yn anffodus nid ydym yn gallu postio'r eitem yma felly mae ar gael ar gyfer danfon yn lleol neu glic a chasglu yn unig.

Trît go iawn i rywun arbennig

Eich dewis chi o casgen fach 5L o gwrw Blodeuwedd neu Bendigeidfran, dau wydr peint i rannu'r achlysur!, lliain bar hir a matiau cwrw i gyd wedi eu cyflwyno mewn bag cario potel mae modd ei ailddefnyddio.

CWRW EURAIDD CYMREIG

Daeth yr ysbrydoliaeth i greu’r cwrw euraidd poblogaidd hwn o hanes Blodeuwedd, y ferch brydferth yn chwedlau’r Mabinogi, sydd â’u gwreiddiau yn ardal Dyffryn Nantlle. Crëwyd Blodeuwedd gan Gwydion, y dewin, o amrywiaeth o flodau’r maes, ac mae’r nodweddion ysgafn, blodeuog hynny’n cael ei adlewyrchu yn y cwrw arbennig hwn sydd â blas mwy arno.

Alc. 3.6% vol.

IPA COCH CYMREIG

Brenin coronog Ynys y Cedyrn oedd Bendigeidfran, o chwedlau’r Mabinogi, sydd â’u gwreiddiau yn Nyffryn Nantlle. Roedd Bendigeidfran yn gawr o ddyn, ac yn ddewr a chryf o gymeriad, nodweddion sy’n cael eu hadlewyrchu yn y cwrw arbennig yma. Ein hysbrydoliaeth oedd i greu cwrw cryf, blasus, Cymreig, a dyna pam fod lliw yr IPA hwn yn wahanol i rai eraill yn goch. Cawr o gwrw!

Alc. 5% vol.