2 Gasgen Fach 5L - Blodeuwedd a Bendigeidfran

2 Gasgen Fach 5L - Blodeuwedd a Bendigeidfran

Pris arferol
£45.00
Pris sêl
£45.00
Pris arferol
£50.00
Wedi gwerthu allan
Unit price
per 
Yn cynnwys TAW. Cyfrifir danfon wrth dalu.

Trît perffaith i’w fwynhau gyda theulu neu ffrindiau - dwy gasgen fach 5L o gwrw Bragdy Lleu

BLODEUWEDD - CWRW EURAIDD CYMREIG

Daeth yr ysbrydoliaeth i greu’r cwrw euraidd poblogaidd hwn o hanes Blodeuwedd, y ferch brydferth yn chwedlau’r Mabinogi, sydd â’u gwreiddiau yn ardal Dyffryn Nantlle. Crëwyd Blodeuwedd gan Gwydion, y dewin, o amrywiaeth o flodau’r maes, ac mae’r nodweddion ysgafn, blodeuog hynny’n cael ei adlewyrchu yn y cwrw arbennig hwn sydd â blas mwy arno.

Alc. 3.6% vol.

BENDIGEIDFRAN - IPA COCH CYMREIG

Brenin coronog Ynys y Cedyrn oedd Bendigeidfran, o chwedlau’r Mabinogi, sydd â’u gwreiddiau yn Nyffryn Nantlle. Roedd Bendigeidfran yn gawr o ddyn, ac yn ddewr a chryf o gymeriad, nodweddion sy’n cael eu hadlewyrchu yn y cwrw arbennig yma. Ein hysbrydoliaeth oedd i greu cwrw cryf, blasus, Cymreig, a dyna pam fod lliw yr IPA hwn yn wahanol i rai eraill yn goch. Cawr o gwrw!

Alc. 5% vol.