Cymysgedd o boteli o'n ystod o gwrw craidd
BLODEUWEDD - CWRW EURAIDD CYMREIG
Daeth yr ysbrydoliaeth i greu’r cwrw euraidd poblogaidd hwn o hanes Blodeuwedd, y ferch brydferth yn chwedlau’r Mabinogi, sydd â’u gwreiddiau yn ardal Dyffryn Nantlle. Crëwyd Blodeuwedd gan Gwydion, y dewin, o amrywiaeth o flodau’r maes, ac mae’r nodweddion ysgafn, blodeuog hynny’n cael ei adlewyrchu yn y cwrw arbennig hwn sydd â blas mwy arno.
Alc. 3.6% vol.
CERIDWEN - CWRW DU CYMREIG
Gwrach wen oedd Ceridwen; gwraig y cawr Tegid Foel a mam "Afagddu". Yn ei phair hudolus, creodd botas hud i roi gwybodaeth a doethineb diddiwedd i'r sawl oedd yn ei yfed! Mewn teciall bragu yn hytrach na phair mae ein cwrw du blasus ni wedi'i greu, i'ch swyno gyda phob llwnc. Iechyd da!
Alc. 3.7% vol.
TWRCH - CWRW GOLAU CYMREIG
Baedd gwyllt hudol a ffyrnig oedd y Twrch Trwyth yn chwedl Culhwch ac Olwen o'r Mabinogion; cyfres o hanesion yn cynnwys y Mabinogi sydd â'u gwreiddiau yn Nyffryn Nantlle. Ar ôl misoedd o hela ac ymladd, dihangodd y Twrch i'r môr wedi i'r Brenin Arthur lwyddo i gipio'r grib a'r gwellau o'i ben. Byddai potel oer o'r cwrw golau yma yn sicr wedi torri syched Arthur wedi'r ffasiwn ymdrech!
Alc. 3.8% vol.
LLEU - CWRW MELYNGOCH CYMREIG
Caiff y cwrw ei enw ar ôl cymeriad Lleu o chwedlau’r Mabinogi sydd â’u gwreiddiau yn ardal Dyffryn Nantlle. Roedd Lleu yn gymeriad cryf, cofiadwy a deniadol, ac rydym wedi gweithio’n galed i gyfleu’r nodweddion hynny yn y cwrw yma. Mae Lleu yn cyfuno blas haidd a hopys naturiol sy’n cyfuno i greu cwrw unigryw.
Alc. 4.0% vol.
GWYDION - CWRW TRADDODIADOL CYMREIG
Dewin ac arwr oedd Gwydion yn chwedlau’r Mabinogi sydd â’u gwreiddiau yn ardal Dyffryn Nantlle. Roedd Gwydion yn gymeriad cryf a hudolus a dyna yn union ein bwriad wrth greu’r cwrw chwerw traddodiadol hwn. Mae cyfuniad gofalus y cynhwysion naturiol a’r broses fragu ei hun yn creu cwrw blasus gyda blas cofiadwy. Swyn, ym mhob diferyn!
Alc. 4.7% vol.
BENDIGEIDFRAN - IPA COCH CYMREIG
Brenin coronog Ynys y Cedyrn oedd Bendigeidfran, o chwedlau’r Mabinogi, sydd â’u gwreiddiau yn Nyffryn Nantlle. Roedd Bendigeidfran yn gawr o ddyn, ac yn ddewr a chryf o gymeriad, nodweddion sy’n cael eu hadlewyrchu yn y cwrw arbennig yma. Ein hysbrydoliaeth oedd i greu cwrw cryf, blasus, Cymreig, a dyna pam fod lliw yr IPA hwn yn wahanol i rai eraill yn goch. Cawr o gwrw!
Alc. 5% vol.
Nodwch os gwelwch yn dda, byddwn fel arfer yn cynnwys dwy botel o bob cwrw i wneud cês o 12, ond os byddwn allan o stoc o unrhyw un dros dro yna byddwn yn llenwi'r cês gyda chymysgedd o'r cwrw sydd mewn stoc ar y pryd.