Wrth gyrraedd, byddwn yn eich cyfarch gyda pheint / dau hanner (neu ddiod arall os nad yw rhai o'ch gwesteion yn yfwyr cwrw) yn ein Bar. Yna byddwn yn mynd â chi ar daith o amgylch y bragdy ei hun, gan ddangos y broses fragu i chi o'r dechrau i'r diwedd.
Yn dilyn y daith, byddwch yn dychwelyd i'r Bar am beint neu ddau hanner arall, lle cewch gyfle i ddysgu mwy am chwedlau byd-enwog y Mabinogi sy'n ysbrydoli ein cwrw, ac am hanes a iaith gyfoethog yr ardal leol. Bydd y bar ar agor os hoffech chi flasu mwy, ac mae gennym ni hefyd siop ar y safle yn gwerthu detholiad o gwrw a gwirodydd Cymreig i fynd gyda chi i'w mwynhau gartref neu i'w rhoi fel anrheg.
Mae teithiau tywys yn costio £18 y pen. Dewiswch ddyddiad y daith o'r rhestr ostwng ac 'Ychwanegu at y Fasged'. Cyn talu gallwch newid nifer y tocynnau sydd eu hangen arnoch chi.
Os, ar ôl i chi archebu, y byddwch yn canfod nad ydych yn gallu dod ar y daith, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn drefnu dyddiad arall i chi. Noder na fyddwn yn gallu cynnig ad-daliad na newid y dyddiad ar gyfer unrhyw deithiau a ganslwyd llai na 7 diwrnod cyn y digwyddiad.
Dewch â'ch e-bost cadarnhau gyda chi i'r digwyddiad. Nid ydym yn anfon tocynnau papur ar gyfer ein teithiau. Mae teithiau'n cychwyn yn brydlon ar yr amser a hysbysebir felly byddwch yma ar amser os gwelwch yn dda.
Gall y profiad gymryd hyd at 2 awr ond mae croeso mawr i chi aros pan fydd y Bar yn agor i'r cyhoedd am 4pm i wneud y gorau o'ch diwrnod.
Cynhelir ein teithiau fel arfer ar ddydd Sadwrn cyntaf pob mis. Cysylltwch â ni gydag unrhyw ofynion arbennig ar gyfer grwpiau mawr.