ARCHEBU YMLAEN LLAW - BYDD Y NWYDDAU'N CAEL EU HARGRAFFU A'U HANFON YN YR WYTHNOSAU NESAF
Hwdi chwaethus, wedi'i argraffu â llaw ar y blaen a'r cefn gan gwmni lleol sydd wedi'i leoli drws nesaf i'r bragdy yma yn Nyffryn Nantlle, gan ddefnyddio inc sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
Lliwiau sydd ar gael: Siarcol, Du, Glas
Argraffu Sgrin: Logo gwyn ar y fron gyda Twrch mewn gwyn yn edrych yn ffyrnig ar y cefn!
Meintiau: Bach, Canolig, Mawr, XL ac XXL
Nodweddion y dilledyn
Wedi ei bwytho gyda nodwydd ddeuol. Cwfl ffabrig dwbl gyda chordiau lliw. Poced gyfleus i'r tu blaen. Cyffiau a hem asenog. Ffabrig cotwm meddal. Ffabrig mewnol wedi'i frwsio.
Golchwch mewn peiriant golchi ar dymheredd o 30°C. Peidiwch â defnyddio 'bleach'. Gellir ei sychu mewn sychwr 'tymbl' ar wres isel. I'w smwddio ar wres isel. Peidiwch â'i lanhau'n sych.