Yn anffodus nid ydym yn gallu postio'r eitem yma felly mae ar gael ar gyfer danfon yn lleol neu glic a chasglu yn unig.
CWRW GOLAU CYMREIG
Baedd gwyllt hudol a ffyrnig oedd y Twrch Trwyth yn chwedl Culhwch ac Olwen o'r Mabinogion; cyfres o hanesion yn cynnwys y Mabinogi sydd â'u gwreiddiau yn Nyffryn Nantlle. Ar ôl misoedd o hela ac ymladd, dihangodd y Twrch i'r môr wedi i'r Brenin Arthur lwyddo i gipio'r grib a'r gwellau o'i ben. Byddai potel oer o'r cwrw golau yma yn sicr wedi torri syched Arthur wedi'r ffasiwn ymdrech!
Alc. 3.8% vol.